Bydd ein Cynllun Creu Lleoedd mentrus ac uchelgeisiol yn trawsnewid Caerffili, gan ei
gwneud yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi
Mae Caerffili yn lle ar gyfer syniadau mawr a safbwyntiau newydd. Dyna pam rydyn ni, ar y cyd gyda phobl Caerffili, yn ailddychmygucanol y dref er mwyn adlewyrchu ei chymeriad, ei hanghenion a’i dyheadau unigryw.
Mae cynllun creu lleoedd yn lasbrint ar gyfer creu mannau cyhoeddus atyniadol sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a lle. Mae’n broses ar y cyd sy’n ffocysu ar obeithion cymdeithasol, diwylliannol, ariannol ac amgylcheddol cymuned.
Gadewch i ni egluro…mae Cynlluniau Creu Lleoedd fel paratoi ar gyfer marathon. Mae sawl cam cyn cychwyn y ras (y cynllun).
Nododd Ffos Caerffili y cam cyntaf ym mhrosiect Tref Caerffili 2035, ond mae llawer mwy ar y gweill.
P’un ai eich bod yn byw yn y dref, yn chwilio am le i alw’n gartref, yn entrepreneur neu’n ymweld â’r dref, mae Caerffili ar eich cyfer chi.
Erbyn 2035, bydd y si am Gaerffili ar bob stryd.
Hedfanwch dros Gaerffili i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer ein tref.
Mwynhewch bob datblygiad yn Caerffili. Cliciwch ar y cardiau prosiect isod a dewch gyda ni drwy'r dref.
Bydd prosiect Cadw, gwerth £16 miliwn, yn gwarchod ac yn trawsnewid Castell Caerffili o'i drwmgwsg i fod yn atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf.
Find out more
Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol a mannau gwaith - mae Ffos Caerffili wedi'i wneud i bawb.
Find out more
Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu porth i drigolion ac ymwelwyr newydd.
Find out more
Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy'n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu. Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae'r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.
Find out more
Synhwyrydd ar gyfer casglu data traffig, sy’n cael ei bweru gan ddinasyddion, yw Telraam. Bydd yn helpu pobl i ddeall sut mae pawb yn teithio, gan wneud mynd i mewn ac o gwmpas Caerffili yn haws.
Find out more
Menter gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu 72 o fflatiau modern a saith uned fasnachol o ansawdd uchel.
Find out more