Sgwariau Windsor a Stockland

Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland

Fel rhan o’r gwelliannau parhaus i’r ardal gyhoeddus ar draws canol y dref, mae Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland, sy’n hynod boblogaidd, wedi cael eu hailddatblygu.

Wedi’u hadeiladu’n wreiddiol ddiwedd y 1990au, mae’r ddau sgwâr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng y strydoedd preswyl cyfagos a Heol Caerdydd — un o brif gyrchfannau siopa Caerffili.

Bydd y gwelliannau arfaethedig yn dod â bywyd newydd i’r ddau ofod, gan gyflwyno mwy o wyrddni, seddi ychwanegol, a biniau gwell i greu gofod cymdeithasol mwy croesawgar a defnyddiol.

"Gobaith pob artist yw y bydd eu gwaith wir yn perthyn i le. Am ganmoliaeth i weld bod y cerfluniau wedi dod yn rhan o stori'r dref"

Julie Westerman

Jac-dos Caerffili

Crëwyd gweithiau efydd ‘Jac-dos Caerffili’ a’r ‘Gwyddau Clecs’ ar Sgwâr Windsor a Sgwâr Stockland gan yr artist Julie Westerman fel rhan o waith ailddatblygu ehangach tref Caerffili ddiwedd y 1990au.

Wedi’i chynllunio i fod yn ardal heddychlon i drigolion yng nghanol y dref, bydd adnewyddu’r ddau sgwâr yn sicrhau bod y gofod yn parhau i fod yn ganolbwynt i Dref Caerffili.