Telraam

Mwy am Telraam

Er mwyn gwneud tref Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi, mae tîm prosiect tref Caerffili wedi gosod dyfeisiau Telraam o amgylch y dref i ddeall sut mae pobl a cherbydau’n symud drwy’r ardal.

Beth yw Telraam?

Mae Telraam yn declyn monitro clyfar, awtomatig sy’n cyfri nifer y ceir, beiciau a cherddwyr sy’n mynd drwy Gaerffili.

Bydd y wybodaeth yma’n helpu tîm y prosiect i wneud penderfyniadau gwybodus am ddatblygiadau a gwelliannau, gan sicrhau bod y newidiadau’n diwallu anghenion trigolion a busnesau Caerffili.

“Bydd y wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i greu tref fwy cynaliadwy, diogel a hygyrch i bawb ei mwynhau.” 

Y Cynghorydd Jamie Pritchard

Ar gyfer eich busnes

Os hoffech chi osod dyfais Telraam yn eich cartref neu fusnes, cysylltwch â Wilf Meaden drwy caerphilly@telraam.net

Dysgwch fwy am ddyfeisiau Telraam yma: https://telraam.net/en/our-traffic-counter